Prosiect mamaliaid morol Enlli

Saif Enlli yng nghanol ardal bwysig i famaliaid morol:

 

O’i hamgylch mae Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Gorllewin Cymru a ddynodwyd am ei lamhidyddion, ac ACA Pen Llŷn a’r Sarnau sydd â dolffiniaid trwyn potel a morloi llwyd yn nodweddion ohoni. Mae’r morloi llwyd hefyd yn nodwedd o Ddynodiad Enlli fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol. 

 


Hefyd, gwelir dolffiniaid Risso yn rheolaidd; maen nhw wedi bod yn bwnc astudiaethau tymor hir gan gyrff megis Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid mewn cydweithrediad â’r Wylfa. Mae’r moroedd o amgylch Enlli hefyd wedi eu dynodi’n rhyngwladol yn ddiweddar fel Ardal Bwysig Mamaliaid Morol, wrth gydnabod bod llamhidyddion, dolffiniaid trwyn potel, dolffiniaid Risso, dolffiniaid cyffredin a morfilod pigfain i gyd yn defnyddio’r ardal. 

 



Bydd ein prosiect newydd yn canolbwyntio ar gysylltu pobl Pen Llŷn ac Enlli gyda’r mamaliaid morol yn y dyfroedd lleol a bydd yn ddatblygiad o astudiaethau peilot diweddar sydd wedi datblygu’r defnydd o ddrônau i dynnu lluniau dolffiniaid Risso er mwyn creu catalog o unigolion sy’n cael eu hadnabod yn ôl patrymau unigryw esgyll eu cefnau.

 

 

 

Ariennir y prosiect hwn gan Raglen Rhwydweithiau Byd Natur ac fe’i gwireddir gan y Gronfa Dreftadaeth ar ran Llywodraeth Cymru.



No comments:

Post a Comment